Mae Fferm Neuadd Arthog yn ffermdy hardd, eang, wedi'i gyflwyno'n dda ym mhentref Arthog.
Mae'r tÅ· wedi ei leoli mewn man tawel, gyda golygfeydd godidog yn edrych dros Aber y Mawddach a'r mynyddoedd tu hwnt. Dim ond 2 filltir o bentref glan môr y Fairbourne a 7 milltir i'r gorllewin i dref farchnad Dolgellau.
Mae digon o weithgareddau ac atyniadau i'w gwneud yn yr ardal. Gyda llwybrau cerdded a beicio ar eich stepen drws.
Mae atyniadau a gweithgareddau gerllaw yn cynnwys- y llwybr Mawddach draw i bont Abermaw, Cadair Idris, llynnoedd, traethau, pysgota yn y môr, pysgota mewn afon/llyn, beicio mynydd yn Coed y Brenin, merlota, arcêd difyr, golff, caiacio môr, dringo creigiau neu os yw'n well gennych eistedd yn dawel yn yr ardd gan fwynhau'r golygfeydd.